"Yn ol Osian, fu 'erioed gwell graen' ar y gem yng Nghymru. Ac er mor ddiymhongar y disgrifio, mae maint ei gyfraniad at y llwyddiant diweddar hwn yn glir." Rhys Iorwerth, Barn
Hunangofiant is-reolwr tim pêl-droed Cymru, Osian Roberts. Yn ogystal ag edrych yn ôl ar ei fywyd fel chwaraewr a hyfforddwr mae'n dadansoddi'r ymgyrch ragorol i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 16 ac yn rhoi cip ar y paratoadau ar gyfer Ffrainc a thu hwnt.
"Dyma weld, er enghraifft, ei grwsad i wella safonau hyfforddi; ei bwyslais ar y timau cenedlaethol iau (sy'n prysur gau'r bwlch efo'r gwledydd gorau yn Ewrop); a'i ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y chwaraewyr o'u hunaniaeth Gymraeg a Chymreig. Mae yma sefydlogrwydd cadarn, ynghyd ag emosiwn pwyllog, tawel sy'm brigo i'r wyneb yn y bennod ar farwolaeth Gary Speed. Mae'r un emosiwn i'w weld mewn gwedd hapusach yn y darnau sy'n disgrifio tim Cymru - a defnyddio un o hoff ymadrodion Osian - yn llwyddo o'r diwedd i gael y 'maen i'r wal." Rhys Iorwerth, Barn