Bardd a 'sgotwr crancod a chimychiaid o ben draw Llyn yw Huw Erith ac yn y gyfrol hon cawn ddod i adnabod ei fro, ei deulu a throeon trwstan ei fywyd, a darllen ambell hanesyn am gymeriadau lliwgar pen draw'r byd. O drwsio cychod i'w hwylio nhw, mae heli yn ei waed er pan oedd yn ddim o beth yn cysgu'n braf ar sgotal flaen cwch ei dad.
Mae'r morwr â'i wreiddiau yn Uwchmynydd, Aberdaron. Mae'n briod ag Elen, yn dad i chwech o feibion - Llyr, Cai, Cian, Owain, Gwion a Gwern - ac yn daid i Begw Llyr, Math Dafydd ac Erwan Huw.
O sgwennu cerddi i gyfansoddi caneuon, mae Huw wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd y Tir Mawr ac yn ei morio hi yn ei sioeau cerdd a'i ddramâu.