Does dim byd gwell na stori ysbryd cyn mynd i gysgu ac er nad stori ofnus mo hon, tydy hi ddim yn siomi. Ceir y digrif a’r difyr, y tristwch a’r anhygoel yn y nofel hon sydd wedi ei hanelu at ddarllenwyr da 8–14 oed. Erin yw’r prif gymeriad ac mae’n ennyn ein cydymdeimlad o’r bennod gyntaf un. Doedd hi ddim eisiau symud i Blas Ceirios – tŷ a esgorodd ar ffrwyth llafur blynyddoedd o waith adnewyddu ar ran ei mam. Perthynas simsan a bregus sydd rhwng Erin a’i rhieni, a’i ffrindiau yn ogystal, a chan ei bod yn unig blentyn, daw cyfeillgarwch ar ffurf dau annisgwyl iawn – parot busneslyd o’r enw Sesil a Madam Petra, yr ysbryd mwyaf cyfeillgar a ffraeth y gwn i amdano! Ceir yma ddeialog fywiog, lawn hiwmor. Cymeriadau diddorol ac anarferol. Disgrifiadau doniol a lliwgar. Cymariaethau cyfoes, ffres, a themâu oesol o genfigen a chariad, ansicrwydd a chymhlethdodau bywyd yn gwau trwy'r cwbl i gyd.
This site is safe
You are at a security, SSL-enabled, site. All our eBooks sources are constantly verified.