Daeth newid byd i Rhys Meirion ar ôl ennill y Rhuban Glas yn 1996 ac yntau'n brifathro ifanc ar y pryd.Gwnaeth benderfyniad a ddaeth â phrofiadau anhygoel iddo yn sgil ei lais tenor bendigedig. Erbyn hyn, mae wedi canu'r prif rannau mewn operâu a chyngherddau mewn theatrau a neuaddau enwog ar draws y byd, ac wedi rhyddhau nifer o gryno-ddisgiau fel unawdydd ac fel aelod o Dri Tenor Cymru. Ond fu bywyd ddim yn fêl i gyd. Mae Rhys yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau, fel cyflwynydd ac fel canwr ond yma mae'n datgelu hanesion personol iawn sydd wedi ei godi i'r entrychion a'i blymio i'r dyfnderoedd isaf.
Dyma gyfrol emosiynol, weithiau'n ddirdynnol, sy'n mynd i wneud i chi chwerthin a chrio, gan stopio'r byd am funud fach.
Dyma gyfrol emosiynol, weithiau'n ddirdynnol, sy'n mynd i wneud i chi chwerthin a chrio, gan stopio'r byd am funud fach.